Rhif y ddeiseb: P-15-1010

Teitl y ddeiseb: Ymchwiliad annibynnol i'r llifogydd yn Rhondda Cynon Taf yn 2020 fel bod gwersi yn cael eu dysgu

Geiriad y ddeiseb:

Rydym ni, y rhai sydd wedi llofnodi isod, yn mynnu bod Llywodraeth Cymru yn cychwyn ymchwiliad llawn, annibynnol, agored a chyhoeddus o ran y llifogydd i gartrefi a busnesau ledled Rhondda Cynon Taf yn 2020, a bod camau priodol yn cael eu cymryd i unioni unrhyw broblemau fel gellid osgoi difrod tebyg rhag digwydd eto.

Mae pobl a busnesau ar draws Rhondda Cynon Taf angen ymchwiliad i'r llifogydd sydd wedi taro cyn gymaint o'n cymunedau eleni, gyda rhai yn cael eu heffeithio deir gwaith ers mis Chwefror.  Mae'n bryd i leisiau a phrofiadau pobl a busnesau Pontypridd, Trefforest, Ffynon Taf, Trehafod, Cilfynydd, Rhydyfelin, Nantgarw, y Ddraenen Wen, Hirwaun, Abercwmboi, Aberpennar, Pentre, Treorci, Treherbert, Maerdy, Porth ac eraill gael eu clywed, fel bod gwersi yn cael eu dysgu ar gyfer y dyfodol.

 

 

 


1.  Cefndir

Ym mis Chwefror 2020, gwelodd Cymru rai o'r llifogydd gwaethaf ar gofnod o ganlyniad i stormydd Ciara a Dennis. Dywedodd y Swyddfa Dywydd mai dyma fu’r mis Chwefror gwlypaf ar gofnod i Gymru.

Yn ystod penwythnos 15 ac 16 Chwefror tarodd storm Dennis y DU. Yr ardaloedd yr effeithiwyd arnynt fwyaf oedd de Cymru a Gorllewin Canolbarth Lloegr. Ar anterth y storm, roedd 61 Hysbysiad am Lifogydd, 89 Rhybudd rhag Llifogydd a dau Rybudd rhag Llifogydd Difrifol mewn grym ledled Cymru. Ar fore 16 Chwefror, cyrhaeddodd Afon Taf ei lefelau uchaf mewn 40 mlynedd ym Mhontypridd.

Ar 25 Chwefror 2020, cadarnhaodd Lesley Griffiths AS, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig (‘y Gweinidog’) bod llifogydd wedi effeithio’n uniongyrchol ar fwy na 1,000 o gartrefi a 300 o fusnesau ledled Cymru. Nodwyd bod Storm Dennis wedi effeithio ar 1,000 o gartrefi a busnesau yn Rhondda Cynon Taf (RCT) yn unig.

Cafodd Rhondda Cynon Taf ei tharo gan ragor o lifogydd ar benwythnos 29 Chwefror 2020 gan Storm Jorge ac eto am y trydydd tro ym mis Mehefin 2020.

1.1.Cyfrifoldeb dros reoli llifogydd

Mae Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010(o hyn ymlaen, y Ddeddf) yn gwneud darpariaethau ar gyfer rheoli llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru a Lloegr. Mae’r Ddeddf yn rhoi pwerau, ac yn pennu gofynion, i Lywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a’r Awdurdodau Llifogydd Lleol Arweiniol.

Mae adran 6 o'r Ddeddf yn diffinio rolau a chyfrifoldebau 'Awdurdodau Rheoli Risg', sy’n cynnwys pob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru (sy’n gweithredu fel Awdurdodau Llifogydd Lleol Arweiniol). Mae'r Ddeddf hefyd yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i ddatblygu a gweithredu Strategaethau Rheoli Perygl Llifogydd Lleol i nodi amcanion ar gyfer rheoli perygl llifogydd lleol o ddŵr wyneb, dŵr daear a chyrsiau dŵr cyffredin.

Mae adran 19 o’r Ddeddf yn nodi’r canlynol o ran cyfrifoldeb Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol i ymchwilio i lifogydd:

(1) Ar ôl dod yn ymwybodol o lifogydd yn ei ardal, bydd yn rhaid i awdurdod llifogydd lleol arweiniol, i'r graddau y mae'n ystyried bod hynny’n angenrheidiol neu'n briodol, ymchwilio—

(a) pa awdurdodau rheoli risg sydd â swyddogaethau perthnasol ynghylch rheoli perygl llifogydd, a

(b) pha un ai a yw pob un o’r awdurdodau rheoli risg hynny wedi arfer y swyddogaethau hynny mewn ymateb i’r llifogydd, neu’n bwriadu arfer y swyddogaethau hynny.

(2) Pan fydd awdurdod yn cynnal ymchwiliad o dan is-adran (1), bydd yn rhaid iddo—

(a) gyhoeddi canlyniadau ei ymchwiliad, a

(b) hysbysu unrhyw awdurdodau rheoli risg perthnasol.

1.2.Ymchwiliadau cyhoeddus

Cynhelir ymchwiliadau cyhoeddus o dan Ddeddf Ymchwiliadau 2005 ('Deddf 2005' o hyn ymlaen), sy'n darparu'r fframwaith ar gyfer sefydlu ymchwiliad. Mae'n nodi'r prif bwyntiau megis sut y penodir Cadeirydd yr ymchwiliad, sut y gellir cymryd tystiolaeth, a sut y caiff yr adroddiad ei lunio. Mae'n datgan y caiff Gweinidogion Cymru beri i ymchwiliad gael ei gynnal os yw'n ymddangos:

(a) bod digwyddiadau penodol wedi achosi, neu'n gallu achosi, pryder i'r cyhoedd, neu

(b) os oes pryder cyhoeddus y gallai digwyddiadau penodol fod wedi digwydd.

Mae Deddf 2005 yn cael ei hategu gan Reolau Ymchwiliadau 2006 sy'n nodi’r strwythur manwl o ran sut y mae’n rhaid cynnal ymchwiliad.

2.  Camau gweithredu gan Lywodraeth Cymru

Yn dilyn stormydd mis Chwefror, darparodd Llywodraeth Cymru £10 miliwn i helpu i dalu costau’r ymateb cychwynnol. Roedd pob cartref yr effeithiwyd arno yn gallu hawlio £500, gyda £500 ychwanegol i’r rhai heb yswiriant llifogydd. Darparodd Llywodraeth Cymru 100 y cant o'r cyllid yr oedd ar awdurdodau lleol a Cyfoeth Naturiol Cymru ei angen i atgyweirio amddiffynfeydd a chwlferi a ddifrodwyd.

Cafodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf £549,500 o gyllid brys mewn ymateb i'r llifogydd erbyn dechrau mis Ebrill 2020, a £1.7 miliwn pellach drwy'r cynllun cymorth ariannol brys i ariannu ei ymateb cychwynnol.

Cadarnhaodd y Gweinidog yn y Cyfarfod Llawn ar 16 Medi 2020 fod Llywodraeth Cymru wedi ariannu 100 y cant o'r hyn y mae Rhondda Cynon Taf wedi gwneud cais amdano.

Mewn ymateb i gwestiwn ysgrifenedig gan Andrew RT Davies AS ar 26 Mehefin 2020 ynghylch cyfarfodydd a gynhaliwyd mewn perthynas ag amddiffynfeydd llifogydd, dywedodd y Gweinidog:

Immediately following the storms I visited communities in Llanrwst, Pontypridd, Mountain Ash, Crickhowell, Tylorstown, Llanhilleth and Bangor-on-Dee.

The First Minister and I held a meeting at Rhondda Cynon Taf Council offices to discuss the flooding with councillors, emergency responders, local businesses and NRW. 

Mewn ymateb i’r ddeiseb hon, anghytunodd y Gweinidog â'r angen am ymchwiliad annibynnol 'ar hyn o bryd', gan dynnu sylw at gyfrifoldeb Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf i lunio adroddiad ymchwil llifogydd (o dan adran 19 o'r Ddeddf fel y nodir uchod) yn y lle cyntaf. Dywedodd y canlynol:

Mae RCT yn gweithio ar 19 o adroddiadau ar hyn o bryd i asesu achos y llifogydd o Storm Dennis a digwyddiadau diweddar. Mae CNC wedi cadarnhau eu bod yn gweithio gyda RCT i gefnogi’r broses hon. Unwaith y byddant wedi’u cwblhau, bydd yn rhaid cyhoeddi’r adroddiadau gan bob Awdurdod rheoli Risg fel y gellir craffu arnynt yn briodol gan y cyhoedd, aelodau etholedig a phawb arall sydd â diddordeb.

Rwyf wedi ei wneud yn amlwg i Awdurdodau Rheoli Risg Cymru bod angen blaenoriaethu’r adolygiadau hyn i helpu i ddatblygu cynigion y cynllun i fynd i’r afael â’r perygl o lifogydd.

Ar 24 Mehefin 2020, mewn ymateb i gwestiwn yn y Cyfarfod Llawn gan Leanne Wood AS ynghylch a yw Llywodraeth Cymru yn cefnogi galwadau am ymchwiliad annibynnol dan arweiniad arbenigwyr i’r llifogydd yn Rhondda Cynon Taf, dywedodd y Gweinidog:

Credaf ei bod yn bwysig inni adael i'r holl ymchwiliadau fynd rhagddynt. Gellir eu cynnal yn llawer cyflymach nag ymholiad annibynnol, a dyna rwy'n aros amdano.

Yn y Cyfarfod Llawn ar 16 Medi 2020, mewn cwestiwn i’r Gweinidog, tynnodd Janet Finch-Saunders AS sylw at y ffaith nad yw’r “adroddiad hwnnw [ymchwiliad adran 19] wedi’i gyhoeddi saith mis yn ddiweddarach”, a gofynodd a wnâi'r Gweinidog “fynd i’r afael â hyn fel mater brys drwy bennu terfyn amser” ar gyfer y cyhoeddiadau hyn. Yn ei hymateb, dywedodd y Gweinidog “yn sicr, byddaf yn edrych ar y dyddiadau hynny”.

3.  Camau gweithredu gan Senedd Cymru

Trafodwyd y llifogydd ym Mhentre, Rhondda Cynon Taf ar 9 Gorffennaf 2020 mewn cyfarfod o'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig (NHAMG). Holodd Jenny Rathbone AS y Gweinidog ynghylch pam yr oedd Pentre wedi dioddef llifogydd eto ym mis Mehefin, gan ddweud ei fod yn rhoi’r argraff nad oeddem yn rheoli’r sefyllfa o ran gwneud rhywbeth am y llifogydd llawer mwy a ddigwyddodd ym mis Chwefror. Atebodd y Gweinidog fel a ganlyn:

…the flooding in June was caused by something like a month's worth of rain that fell in 15 minutes, so it was a very different flooding incident to what we had back in February. Obviously, it's not acceptable to see the same streets flooded, but we still are investigating all the flooding from February.

Yn y Cyfarfod Llawn ar 16 Medi 2020, ailbwysleisiodd Leanne Wood AS fod "Plaid Cymru yn awyddus i weld ymchwiliad annibynnol ynglŷn â pham fod cymaint o gymunedau yn y Rhondda wedi dod yn agored i lifogydd yn sydyn”, ond ychwanegodd “ni ddylai'r ymchwiliad hwn atal unrhyw fesurau ataliol neu waith adfer” rhag digwydd.

Yn ystod yr un sesiwn o’r Cyfarfod Llawn, tynnodd Mick Antoniw AS sylw at bryderon trigolion Rhondda Cynon Taf "wrth i'r gaeaf nesáu":

…mae gan y bobl yr effeithiwyd arnynt gan lifogydd neu sy'n byw mewn ardaloedd perygl llifogydd bryderon gwirioneddol y gallai'r un peth ddigwydd eto, ar ôl cael trefn ar eu tai, y gallant wynebu rhagor o lifogydd os byddwn yn wynebu stormydd mwy difrifol.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.